Ceri played Fflur Stevens in the popular Welsh language drama ‘Rownd a Rownd’ for S4C.
Cafodd Ceri ei geni a’i magu yng Ngogledd Cymru, ac erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Fe hyfforddodd fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2010. Mae hi wedi gweithio gyda Theatr Iolo, Theatr y Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni’r Frân Wen, Elan Wales, Derby Theatre a Rondo Media. Mae rhai o’i chredydau theatr yn cynnwys chwarae Polly yn y cynhyrchiad llwyfan o Adventures in the Skin Trade Dylan Thomas yn Nhŷ Opera Sydney, ar gyfer dathliadau can mlwyddiant Dylan Thomas (Theatr Iolo) a Boxy and Sticky yng Nghanolfan Gelfyddydau Melbourne (Theatr Iolo a Sarah Argent – fe wnaeth Ceri hefyd gyfieithu’r ddrama i’r Gymraeg ar gyfer y daith yng Nghymru), The Princess and the Pea (Theatr y Sherman a Theatr Iolo – fe wnaeth Ceri hefyd gyfieithu’r ddrama ar gyfer y fersiwn Gymraeg o’r cynhyrchiad), Blodyn ac Estron (Theatr Genedlaethol Cymru), a pherfformio Dim Diolch (Cwmni’r Frân Wen) yng Ngŵyl Caeredin.
Bu Ceri yn chwarae rhan Fflur Stevens yn y ddrama deledu boblogaidd ‘Rownd a Rownd’ i S4C.